Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Cleifion yng Nghymru sydd ag anhwylderau gwaed etifeddol i gael prawf o safon fyd-eang i leihau sgîl-effeithiau trallwysiad gwaed

Ar Ddiwrnod Crymangelloedd y Byd (19 Mehefin), mae Gwasanaeth Gwaed Cymru, mewn cydweithrediad â’r Gwasanaeth Anemia Etifeddol yng Nghymru, yn cyhoeddi prawf gwaed newydd i helpu i leihau sgil-effeithiau trallwysiad gwaed i gleifion sydd â chlefyd y crymangelloedd, thalasaemia, a mathau eraill o anemia etifeddol yng Nghymru.

Mae cleifion sydd â'r anhwylderau hyn yn dibynnu ar drallwysiadau gwaed rheolaidd fel rhan o'u cynllun triniaeth barhaus. Oherwydd y nifer uchel o drallwysiadau y mae'r cleifion hyn yn eu derbyn, y mwyaf agos y mae rhodd o waed yn paru teip gwaed claf, y lleiaf tebygol y byddant yn profi sgîl-effeithiau.

Er bod rhai mathau o waed, fel O, A, B ac AB yn adnabyddus, mae 45 teip yn cael eu cydnabod mewn gwirionedd, gyda rhai yn brin iawn oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys ethnigrwydd.

Er bod rhai mathau o waed, fel O, A, B ac AB yn adnabyddus, mae 45 teip yn cael eu cydnabod mewn gwirionedd, gyda rhai yn brin iawn oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys ethnigrwydd.

Mae clefyd y crymangelloedd yn glefyd gwaed etifeddol, sy’n fwy cyffredin ymhlith pobl o dras Du Affricanaidd a Charibïaidd, a gall arwain at niwed difrifol i’r organau a phoen dwys os bydd celloedd coch y gwaed wedi’u difrodi yn rhwystro pibellau gwaed ac yn cyfyngu ar gyflenwad ocsigen.

People with thalassaemia cannot produce enough haemoglobin, which is used by red blood cells to carry oxygen around the body, causing severe anaemia, which can be fatal if not treated. Thalassaemia is mainly seen in patients with an Asian, Middle Eastern, or Southern Mediterranean heritage.

Nid ydy pobl sydd â thalasaemia yn gallu cynhyrchu digon o haemoglobin, sydd yn cael ei ddefnyddio gan gelloedd coch y gwaed i gludo ocsigen o amgylch y corff, gan achosi anemia difrifol, a allai fod yn angheuol os na chaiff ei drin. Mae thalasaemia yn cael ei ddarganfod yn bennaf mewn cleifion o dreftadaeth Asiaidd, Dwyrain Canol, neu Dde Môr y Canoldir.

Defnyddir trallwysiadau achub bywyd yn gyffredin i drin anhwylderau gwaed etifeddol prin, ond mae tua un rhan o bump o gleifion yn datblygu gwrthgyrff yn erbyn rhai grwpiau gwaed yn dilyn trallwysiad. Oherwydd yr anhawster i ddod o hyd i waed sy'n paru’n addas, gall cleifion wedyn brofi oedi o ran triniaeth ac er yn brin, mewn rhai achosion, brofi adweithiau i drallwysiad gwaed.

Dywedodd Dr Indu Thakur, Haematolegydd Pediatrig Ymgynghorol yng Ngwasanaeth Gwaed Cymru “Mae hwn yn wasanaeth blaenllaw sydd wedi'i gyflwyno'n ddiweddar yn Lloegr, ac sydd bellach yma yng Nghymru. Bydd yn helpu i drawsnewid sut rydym yn gofalu am gleifion sydd â chlefyd y crymangelloedd a thalasaemia, ac yn gwella’r canlyniadau iddynt.

“Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn golygu bod cleifion sydd â chlefyd y crymangelloedd a thalasaemia bellach yn gymwys ar gyfer y prawf gwaed newydd hwn. Tra bod paru gwaed ar gyfer cleifion sydd ag anhwylderau gwaed etifeddol eisoes yn cael ei wneud, bydd y newid hwn yn ein helpu i baru gwaed yn well, lleihau’r risg o adweithiau trallwyso, a lleihau cymhlethdodau difrifol eraill.

"Mae hwn yn gam mawr ymlaen yn esblygiad y gofal ar gyfer y cleifion hyn. Rwy’n annog unrhyw un sy’n gymwys i siarad â’u gweithwyr clinigol proffesiynol am y prawf hwn, ac i fanteisio ar y gwasanaeth newydd hwn.”

Wrth siarad am y gwasanaeth newydd, meddai’r claf thalasaemia, Giggs Kanias “Gallai’r prawf newydd hwn fod o gymorth mawr i bobl sydd ag anhwylderau fel fy un i.”

Mae anhwylder gwaed prin Giggs yn golygu ei fod angen trallwysiadau gwaed bob tair wythnos i'w gadw'n fyw; mae wedi derbyn dros 1,000 o drallwysiadau gwaed i drin ei gyflwr.

Parhaodd Giggs “Rwyf mor ddiolchgar i’r bobl anhygoel sy’n rhoi gwaed ac i’r clinigwyr ysbyty sy’n parhau i fy nghefnogi.

“Pan rydw i yn yr ysbyty, rydw i'n syllu ar y bagiau o waed sy'n cael eu trallwyso i mewn i mi, a dwi bob amser yn meddwl tybed pwy yw'r person sydd wedi fy helpu.

“Dw i byth yn diystyru’r gwahaniaeth mae’r bobl hyn wedi’i wneud i fy mywyd, a pha mor ddiolchgar ydw i i bob un ohonyn nhw. Heb eu haelioni nhw, fuaswn i ddim yma heddiw, fuaswn i ddim yn dad, nac wedi cael y cyfle i weld fy merch yn tyfu i fyny.”

Daeth Dr Thakur i'r casgliad; “Mae amrywiaeth poblogaeth Cymru yn cynyddu ac yn sgil hynny, rydym yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y cleifion sydd â chlefyd y crymangelloedd, thalasaemia a mathau eraill o anemia etifeddol. Mae'n bwysig felly, ein bod ni hefyd yn amrywiaethu ein panel o roddwyr gwaed, fel y gall y cleifion hyn gael y driniaeth a'r canlyniadau gorau posibl.

 

“Byddwn yn annog unrhyw un o gefndir du, Asiaidd, lleiafrifol cymysg neu ethnig i ystyried cofrestru i fod yn rhoddwr, a helpu mwy o bobl mewn angen, fel Giggs.”

 

I ddarllen mwy am y gwasanaeth hwn, cliciwch yma.